DATGANIAD

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL:

Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

DYDDIAD:

24 Hydref 2022

GAN:

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Pasiwyd Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) gan y Senedd ar 12 Gorffennaf 2022 a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 8 Medi.

 

Mae datganoli trethi yn bwysig. Mae’n rhoi ysgogiad sylweddol y gallwn ei ddefnyddio i gyflawni blaenoriaethau strategol yn well ar gyfer dinasyddion a busnesau Cymru.

 

Mae’r profiad dros y pedair blynedd diwethaf o ddatganoli trethi wedi galluogi Llywodraeth Cymru i ddatblygu cryn dipyn o allu ym maes trethi. Rydym wedi sefydlu dull Cymreig unigryw o ran llunio polisi trethi, ac o ran y ffordd y mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyflawni’r polisi hwnnw. Mae ein dull gweithredu yn rhoi blaenoriaeth i anghenion dinasyddion, cymunedau a busnesau Cymru.

 

Pwrpas

 

Bydd y Ddeddf hon yn darparu ysgogiad cyllidol ychwanegol drwy ganiatáu i Weinidogion Cymru wneud diwygiadau wrth ymateb i newidiadau a wneir gan Lywodraeth y DU i drethi ‘rhagflaenol’ y DU – hynny yw, Treth Dir y Dreth Stamp a’r Dreth Dirlenwi – a fydd yn effeithio ar yr addasiad i grant bloc Cymru, ac felly yn effeithio ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.

 

Caniateir diwygiadau i Ddeddfau Trethi Cymru hefyd er mwyn ymateb i amgylchiadau allanol eraill, megis i sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru yn cael eu gosod lle byddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol.

 

Bydd hefyd yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud newidiadau deddfwriaethol i ddiogelu rhag gweithgarwch osgoi trethi, y gellir wedyn ei atal ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys sefyllfaoedd lle bydd mwy o eglurder yn y ddeddfwriaeth yn gwneud y cymhwysiad arfaethedig o’r darpariaethau deddfwriaethol yn gwbl glir, ac o bosibl o fudd i drethdalwyr drwy atal hyrwyddo cyfleoedd osgoi nad ydynt yn bodoli mewn gwirionedd. Mae camau o’r fath wedi’u cymryd gan Lywodraeth y DU i ddiogelu trefniadau treth a threthdalwyr yn y gorffennol a bydd Gweinidogion Cymru nawr yn gallu cymryd camau tebyg.

 

Yn olaf, bydd y Ddeddf hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud newidiadau pan fo penderfyniad llys neu dribiwnlys yn nodi mater y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried a allai elwa o newid deddfwriaethol neu fwy o eglurder yn y gyfraith. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau’n ymwneud â Deddfau Trethi Cymru, trethi ‘rhagflaenol’ y DU, trethi eraill, neu gyfreithiau eraill a all effeithio ar drethi datganoledig.

 

Effaith ôl-weithredol

 

Mae’r Ddeddf hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau a all gael effaith ôl-weithredol. Bydd defnyddio’r pŵer yn ôl-weithredol yn cael ei ystyried fesul achos gan y gall y cyfiawnhad dros bob defnydd fod yn wahanol, gan ddibynnu ar y pwrpas.

 

Bydd hyn yn cynnwys sefyllfaoedd pan fo effaith y rheoliadau’n rhoi budd i drethdalwyr Cymru. Er enghraifft, efallai y bydd Llywodraeth Cymru am i drethdalwyr Cymru elwa ar ostyngiad yn eu hatebolrwydd treth o’r un dyddiad ag y cyflwynwyd newid yn Lloegr. Gall Gweinidogion Cymru ddewis cyflawni hynny drwy fabwysiadau, neu addasu, yr un polisi neu bolisi gwahanol.

 

Datganiad polisi ar ddeddfwriaeth ôl-weithredol

 

Mae gan Weinidogion Cymru rwymedigaeth statudol i gyhoeddi datganiad ar eu polisi o ran arfer y pŵer i wneud rheoliadau ag effaith ôl-weithredol. Gweler y datganiad polisi hwnnw yn yr atodiad i’r Datganiad Ysgrifenedig hwn. Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r datganiad polisi o fewn 3 mis ar ôl i’r ddeddf gael y Cydsyniad Brenhinol. Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn bodloni’r rhwymedigaethau statudol hyn.

 

Adolygu, mecanweithiau amgen a therfyn amser y pŵer

 

Mae’n rhaid i Weinidogion Cymru adolygu gweithrediad y Ddeddf a chyhoeddi eu casgliadau cyn pen pedair blynedd o’r dyddiad y daw’r Ddeddf i rym. Bydd yr adolygiad yn cynnwys asesiad a wneir gan Weinidogion Cymru o fecanweithiau deddfwriaethol amgen i wneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wnaed o dan y Deddfau hynny. Bydd fy swyddogion yn dechrau archwilio mecanweithiau amgen yn y dyfodol agos. Bydd y gwaith hwnnw yn cynnwys ymgysylltu ag arbenigwyr trethi a chyfreithiol ac rwy’n gobeithio y byddant unwaith eto yn barod i roi o’u hamser yn hael i helpu i ddatblygu fframwaith trethi datganoledig Cymru.

 

Mae gallu Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau gan ddefnyddio’r pŵer yn y Ddeddf hon wedi’i gyfyngu i bum mlynedd o’r diwrnod y daw’r Ddeddf i rym. Gellir ymestyn y cyfnod hwnnw i ddim hwyrach na 30 Ebrill 2031 yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd.

 

 

 

 

Atodiad

 

Datganiad polisi mewn perthynas ag arfer y pŵer i wneud deddfwriaeth ôl-weithredol yn Neddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022

 

1.    Cefndir

 

Cyffredinol

 

1.1 Mae Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 ("y Ddeddf") yn gweithredu er mwyn bod modd gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru[1], drwy reoliadau pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod newidiadau o’r fath yn angenrheidiol neu’n briodol a phan fo’n ofynnol iddynt gael effaith ar unwaith neu'n fuan iawn wedi hynny. Bydd y newidiadau hynny yn cael eu caniatáu er mwyn ymateb i nifer o amgylchiadau allanol. Yn gryno:

 

i.      er mwyn sicrhau nad yw trethi datganoledig Cymru yn cael eu gorfodi pan fyddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol

ii.    er mwyn diogelu rhag achosion o osgoi trethi mewn perthynas â threthi datganoledig Cymru

iii.   er mwyn ymateb i newidiadau a wnaed gan Lywodraeth y DU i 'drethi rhagflaenol'[2] y DU (hynny yw, unrhyw dreth y mae gennym dreth ddatganoledig gyfatebol iddi) sy’n effeithio, neu a allai effeithio ar y swm a delir i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru[3]

iv.   er mwyn ymateb i benderfyniadau’r llysoedd/tribiwnlysoedd sy’n effeithio, neu a allai effeithio ar weithredu Deddfau Trethi Cymru, neu unrhyw reoliadau a wneir oddi tanynt. 

 

1.2Y prif effaith y bwriedir i’r Ddeddf ei chael yw darparu mecanwaith cymesur i Weinidogion Cymru ar gyfer diogelu refeniw trethi Cymru a godir drwy drethi datganoledig, ac i osgoi goblygiadau niweidiol i fusnesau, y farchnad eiddo a’r amgylchedd.

 

1.3Ni fydd y pwerau gwneud rheoliadau yn cael eu defnyddio i wneud newidiadau polisi arferol i'r trethi datganoledig. Ar gyfer newidiadau o'r fath, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio pwerau sy’n bodoli eisoes yn Neddfau Trethi Cymru neu, pan fo angen, ddeddfwriaeth sylfaenol. 

 

2.    Y Datganiad - Deddfwriaeth ôl-weithredol

 

2.1Fel arfer, ni fydd newidiadau i ddeddfwriaeth trethi yn dod i effaith cyn y dyddiad y caiff y rheoliadau eu gwneud. Fodd bynnag, bydd newid sy’n cael effaith o ddyddiad sydd cyn y dyddiad gwneud hefyd yn bosibl ar gyfer rheoliadau a wneir gan ddefnyddio'r pŵer a ddarperir gan y Ddeddf[4], ond mewn amgylchiadau eithriadol yn unig y bwriedir defnyddio hwn. Penderfynir fesul achos a ddylid gwneud rheoliadau sy'n rhoi effaith ôl-weithredol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau penodol. Yn yr holl amgylchiadau, fodd bynnag, bydd y rheoliadau yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Senedd, waeth a ydynt yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’[5].

 

2.2 Mae enghreifftiau o sefyllfaoedd pan gaiff Gweinidogion Cymru ystyried gwneud rheoliadau gydag effaith ôl-weithredol yn cynnwys:

·                pan fydd newid yn cael ei wneud gan Lywodraeth y DU sy'n cael effaith ar unwaith ac sy'n darparu mantais o ran trethi, a masnachol felly, i endidau sy'n agored i'r dreth ragflaenol

·                pan fydd newid yn cael ei wneud gan Lywodraeth y DU sy'n cael effaith ar unwaith ac sy’n cynyddu symiau treth a godir gan dreth ragflaenol a fydd yn cael effaith sylweddol ar yr addasiad i’r grant bloc

·                pan fydd rhaid atal unrhyw achos o osgoi trethi

·                pan fydd penderfyniad llys yn golygu efallai na ddehonglir y ddeddfwriaeth fel y bwriadwyd gan y Senedd pan gafodd ei deddfu

·                pan fydd rheoliadau wedi cael eu gwneud gan ddefnyddio’r pŵer yn y Ddeddf (naill ai drwy’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’) a bydd Gweinidogion Cymru yn dymuno diwygio effaith y rheoliadau, er mwyn bod y newidiadau yn cael effaith o’r un dyddiad y cafodd y rheoliadau gwreiddiol effaith. Serch hynny, dim ond pan na fydd y newidiadau yn cynyddu neu’n creu atebolrwydd treth, neu’n lleihau hawl i gredyd treth y Dreth Gwarediadau Tirlenwi y bydd hyn yn bosibl.

 

2.3 Ni all rheoliadau wneud newidiadau yn ôl-weithredol pan fyddai gwneud hynny yn gorfodi cosb newydd neu’n ymestyn cosb bresennol. At hynny, pan fo’r rheoliadau yn creu atebolrwydd treth ddatganoledig, neu’n cynyddu atebolrwydd o’r fath, dim ond gydag effaith ôl-weithredol i’r dyddiad y mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud datganiad llafar neu Ddatganiad Ysgrifenedig i’r Senedd y ceir eu gwneud. Mae’r un cyfyngiadau yn berthnasol pan fo’r rheoliadau yn lleihau hawl i gredyd treth at ddibenion y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, neu’n tynnu hawl o’r fath yn ôl. Pan fo’r rheoliadau yn dileu neu’n lleihau atebolrwydd treth ddatganoledig, neu’n cynyddu neu’n cyflwyno credyd treth newydd i gyfundrefn y Dreth Gwarediadau Tirlenwi, nid yw’r cyfyngiadau hyn yn berthnasol.

 

2.4Bydd Gweinidogion Cymru yn sicrhau bod y rheoliadau a wneir yn gymesur ac yn gydnaws â’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol[6].

 

3.    Hysbysu ynghylch y Newidiadau a’u Hamseriad

 

3.1Bydd Gweinidogion Cymru fel arfer yn ceisio gwneud cyhoeddiadau am drethi fel rhan o’r Datganiad Cyllideb Ddrafft pan fo’n bosibl, ond mae angen cydnabod hefyd mai ar gyfer ymateb i ddigwyddiadau allanol y bwriedir defnyddio’r pŵer a ddarperir gan y Ddeddf. O ganlyniad, mae’n debygol y bydd y defnydd o’r pŵer hwn yn digwydd y tu allan i’r cyfnod amser a fyddai’n caniatáu i gyhoeddiad gael ei wneud fel rhan o Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru. Felly, mae newidiadau yn fwyaf tebygol o ddigwydd y tu allan i’r Datganiad Cyllideb Ddrafft cyntaf. Pan fo’n bosibl, bydd Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio eu sianeli cyfathrebu a rhanddeiliaid hysbys i godi ymwybyddiaeth o’r newidiadau yn syth ar ôl unrhyw ddatganiad llafar neu Ddatganiad Ysgrifenedig (yn benodol, y Datganiad Ysgrifenedig a’r manylion a’r Atodiadau fydd yn rhan ohono).

 

4.    Gweithdrefn

 

4.1Wrth gyflwyno deddfwriaeth ôl-weithredol, bwriad Gweinidogion Cymru yw cadw at y weithdrefn a ganlyn:

 

-       bod manylion cyffredinol y newidiadau arfaethedig yn fanwl gywir ac yn cael eu darparu drwy gyfrwng datganiad llafar neu Ddatganiad Ysgrifenedig

-       bod y datganiad llafar neu’r Datganiad Ysgrifenedig yn nodi'r weithdrefn a ddefnyddir a bod y rheoliadau yn cael eu gwneud cyn gynted â phosibl yn unol â’r weithdrefn berthnasol a pholisïau Llywodraeth Cymru

-       bod Gweinidogion Cymru yn ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gan amlinellu’r newidiadau arfaethedig a gwahodd y Pwyllgorau i ystyried diben ac effaith y ddeddfwriaeth ôl-weithredol. Bydd copïau o’r llythyrau hefyd yn cael eu hanfon at y Llywydd

-       bod y rheoliadau yn cael eu gosod gerbron y Senedd (a, phan fo’n briodol) yn cael eu gwneud cyn gynted ag sy’n bosibl. 

 

4.2  Pan fo'n bosibl gwneud hynny yn yr amser a ganiateir gan amgylchiadau unigol, bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar effaith y rheoliadau, naill ai drwy ymgynghoriad ffurfiol os bydd amser yn caniatáu, neu yn anffurfiol gyda phartïon allanol dibynadwy sydd â buddiant. Fodd bynnag, o ystyried natur y rheoliadau, yn enwedig mewn achosion pan fo angen diwygio ar frys, efallai na fydd bob amser yn bosibl gwneud hyn, er enghraifft pan fo risg o ragflaenu.

 

 



[1] Diffinnir “Deddfau Trethi Cymru” fel Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“LTTA”), Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (“LDT”) a  Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (“TCMA”).

[2] Ar hyn o bryd, mae 'trethi rhagflaenol' yn cyfeirio at Dreth Dir y Dreth Stamp a’r Dreth Tirlenwi – trethi cyfatebol y DU i’r trethi sydd bellach wedi'u datganoli yng Nghymru.

[3] O dan adran 118(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

[4] Gweler adran 2 o’r Ddeddf.

[5] Ni all y Senedd ystyried rheoliadau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ac ni all bleidleisio arnynt, hyd nes y bydd naill ai’r pwyllgor sy’n gyfrifol am y swyddogaethau (pan fo’n berthnasol) ac unrhyw bwyllgor arall sydd wedi rhoi rhybudd wedi adrodd ar yr offeryn drafft, neu hyd nes y bydd 20 o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers i’r offeryn drafft gael ei osod gerbron y Senedd. Gall rheoliadau sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ ddod i rym ar unwaith wedi iddynt gael eu gwneud gan Weinidogion Cymru. Fodd bynnag, rhaid i’r cynnig ar gyfer cymeradwyo rheoliadau o’r fath gael ei ystyried gan y Senedd, a rhaid iddi gytuno arno, cyn pen cyfnod o ddim mwy na 60 o ddiwrnodau er mwyn i’r rheoliadau hynny barhau mewn effaith. Os na chynhelir pleidlais o fewn yr amserlen hon, neu os na chaiff y rheoliadau eu cymeradwyo gan y Senedd, bydd yr offeryn yn peidio â chael effaith o’r diwrnod sy’n dilyn diwrnod 60 neu ar ddiwedd y dydd ar y diwrnod y cynhelir y bleidlais. Rhaid bod o leiaf 28 o ddiwrnodau wedi mynd heibio hefyd, o’r pwynt y cawsant eu gwneud, cyn y gall y Senedd ystyried y cynnig i gymeradwyo rheoliadau o’r fath, a phleidleisio ar y cynnig hwnnw. Wrth gyfrifo’r cyfnodau hyn, ni ystyrir unrhyw adegau pan fydd y Senedd wedi’i diddymu neu ar doriad sy’n 4 diwrnod neu fwy.

 

[6] “Hawliau’r Confensiwn” sydd wedi’u hymgorffori yng nghyfraith y DU drwy gyfrwng Deddf Hawliau Dynol 1998.